The essential journalist news source
Back
3.
May
2024.
Arweinydd Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi ad-drefniant i’r Cabinet
03/05/24

Mae dau gynghorydd o Gaerdydd wedi camu o'r meinciau cefn i ymuno â Chabinet Cyngor Caerdydd fel rhan o ad-drefniant a gyhoeddwyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas.

Cyhoeddodd y Cynghorydd Thomas yr ad-drefniant heddiw, Ddydd Iau 2 Mai, ar ôl iddo gael ei ailethol yn arweinydd y Grŵp Llafur ynn Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y grŵp yn gynharach yr wythnos hon. Bydd y newidiadau i'r Cabinet, sy'n cynnwys dod â rhai portffolios at ei gilydd, a chreu mwy o swyddi a rennir yn y Cabinet, yn cael eu cyflwyno i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd ar 23 Mai i'w cadarnhau.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Cynghorydd Caro Wild ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cabinet Newid Hinsawdd Cyngor Caerdydd i ddilyn prosiectau newydd.

Fel rhan o bortffolio estynedig, bydd y Cynghorydd Dan De'Ath yn cymryd cyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Chaerdydd Un Blaned law yn llaw â'i friff Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth presennol.

Bydd y Cynghorydd Norma Mackie yn rhoi'r gorau i fod yn Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion i ganolbwyntio ar Reoli Gwastraff, Cynnal a Chadw Priffyrdd, a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Bydd y Cynghorydd Leonora Thomson a'r Cynghorydd Lee Bridgeman yn ymuno â'r Cabinet am y tro cyntaf. Bydd y Cynghorydd Thomson, sy'n cynrychioli Glan-yr-afon, yn cael y briff Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mewn Portffolio Cabinet newydd a rennir a fydd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus a Chydraddoldeb, a fydd yn parhau i gael ei arwain gan y Cynghorydd Julie Sangani.

Bydd y Cynghorydd Lee Bridgeman, sy'n cynrychioli Llanrhymni, yn cael rhannu’r Portffolio Tai a Chymunedau gyda'r Cynghorydd Lynda Thorne. Bydd y Cynghorydd Thorne yn parhau i arwain y Rhaglen Dai, tra bydd y Cynghorydd Bridgeman yn canolbwyntio ar Hybiau Cymunedol ac Adfywio.

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, a'r portffolio Trechu Tlodi a Gwasanaethau Ieuenctid, yn cael eu dwyn ynghyd ac fe gaiff y portffolio hwn ei rannu gan y Cynghorydd Ash Lister a'r Cynghorydd Peter Bradbury, sydd wedi bod yn rheoli'r meysydd hyn.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i Caro am ei waith ardderchog dros y saith mlynedd diwethaf.  Mae wedi chwarae rhan allweddol yn gyrru'r agenda Un Blaned yn ei flaen ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn dymuno'r gorau iddo yn ei fenter newydd.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r Grŵp Llafur am yr anrhydedd o gael fy mhenodi i barhau yn fy rôl fel Arweinydd Cyngor Caerdydd. Rwy'n falch o'r holl waith y mae'r weinyddiaeth wedi'i gyflawni yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac er bod llawer o heriau i ddod, byddwn yn parhau i wasanaethu'r cymunedau a'n hetholodd gyda'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y ddinas.

"Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Lynda a fydd, drwy gytundeb y ddau ohonom, yn trosglwyddo i rôl rhannu swydd, fel y gall drosglwyddo ei phrofiad a'i gwybodaeth tra'n gallu canolbwyntio ar gyflawni'r Rhaglen Dai.

"Rwy'n falch iawn o groesawu Lee a Leo i'r Cabinet am y tro cyntaf.  Bydd Lee yn rhannu swydd gyda Lynda, gan arwain ar yr Hybiau Cymunedol ac Adfywio yn y portffolio hwnnw. Bydd Leo yn gyfrifol am y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mewn portffolio a rennir gydag Iechyd Cyhoeddus a Chydraddoldeb, sy'n dal i fod gan Julie.

"Bydd gweddill elfennau y swyddi a rennir - sef Gwasanaethau Plant, a Threchu Tlodi a Gwasanaethau Ieuenctid - yn cael eu paru gyda'i gilydd, gyda'r cyfrifoldeb yn parhau yn nwylo Ash a Pete yn y drefn honno.

"Bydd portffolio wedi'i ailgyflunio, yn cyfuno gwastraff a gorfodi gyda chynnal a chadw priffyrdd a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yn nwylo Norma, ar sail llawn amser. Bydd cyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd ac Un Blaned yn trosglwyddo i Dan, sydd hefyd yn cadw cyfrifoldeb dros Drafnidiaeth Strategol a Chynllunio.

"Bydd y cyfrifoldebau portffolio sy’n weddill yn aros yr un fath ar lefel uchel, er ei bod yn bosib y gellir gwneud ychydig o addasiadau i fireinio lle mae gwasanaethau penodol yn eistedd yn union. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, byddaf yn rhannu dadansoddiad manwl o ran lle mae gwasanaethau yn gorwedd ym mhob portffolio."

Mae'r Cabinet a ad-drefnwyd, a fydd yn mynd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd ar 23 Mai er mwyn ei gadarnhau, fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Huw Thomas – Arweinydd y Cyngor 

Y Cynghorydd Sarah Merry -Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg

Y Cynghorydd Russell Goodway - Buddsoddi a Datblygu

Y Cynghorydd Chris Weaver - Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad

Y CynghoryddThomson a’r Cynghorydd Julie Sangani - Gwasanaethau Plant Oedolion, Iechyd y Cyhoedd,a Chydraddoldebau

Y CynghoryddAsh Lister a’r Cynghorydd Peter Bradbury - Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, Trechu Tlodi, a Gwasanaethau Ieuenctid

Y Cynghorydd Lynda Thorne a’r Cynghorydd Lee Bridgeman - Tai a Chymunedau

Y Cynghorydd Jennifer Burke - Diwylliant, Parciau a Digwyddiadau

Y CynghoryddDan De’Ath - Trafnidiaeth Strategol a Chynllunio, Newid Hinsawdd a Chaerdydd Un Blaned

Y CynghoryddNorma Mackie - Rheoli Gwastraff, Cynnal a Chadw Priffyrdd, a Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.